05/06/2026
🕐 A look back at our Bangor home.
As part of our centenary year, we’re continuing to reflect on the history of the firm and the moments that helped shape where we are today.
💯 Our story in Bangor began back in 1926, when Hugh E Edwards & Co was established in an office on Bangor High Street, above a shoe shop. Over the decades that followed, the practice grew, moved to Farrar Road and continued to expand through new partners, new team members and new clients.
By the mid-2000s, the team had outgrown the Farrar Road office, so a decision was made to buy a plot and develop a purpose-built office at Parc Menai. The move took place in April 2007, with the official opening held at 12:34 on 05/06/07.
📅 Today marks 19 years since the official opening of our Parc Menai office. The photo shows Keith Barker, Peter Denton, Cecil Williams and Hugh Prys Jones at the ceremonial cutting of the turf ahead of the build, as well as a newspaper cutting showing the news item from the launch.
From humble beginnings on Bangor High Street to our current office at Parc Menai, our Bangor office remains a key part of our story and our connection with the local community.
🕐 Edrych yn ôl ar ein cartref ym Mangor.
Fel rhan o flwyddyn ein canmlwyddiant, rydym yn parhau i edrych yn ôl ar hanes y cwmni a’r adegau sydd wedi helpu i’n siapio ni i fod lle rydym ni heddiw.
💯 Dechreuodd ein stori ym Mangor yn ôl ym 1926, pan sefydlwyd Hugh E Edwards & Co mewn swyddfa ar Stryd Fawr Bangor, uwchben siop esgidiau. Dros y degawdau a ddilynodd, tyfodd y practis, symudodd i Ffordd Farrar a pharhau i ehangu drwy groesawu partneriaid newydd, aelodau newydd o’r tîm a chleientiaid newydd.
Erbyn canol y 2000au, roedd y tîm wedi tyfu'n rhy fawr i swyddfa Ffordd Farrar, felly penderfynwyd prynu plot a datblygu swyddfa bwrpasol ym Mharc Menai. Symudodd y cwmni yno ym mis Ebrill 2007, gyda’r agoriad swyddogol yn cael ei gynnal am 12:34 ar 05/06/07.
📅 Mae heddiw yn nodi 19 mlynedd ers agoriad swyddogol ein swyddfa ym Mharc Menai. Yn y llun mae Keith Barker, Peter Denton, Cecil Williams a Hugh Prys Jones yn torri’r dywarchen cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau, yn ogystal â darn o bapur newydd yn dangos yr eitem newyddion o’r lansiad.
O ddechreuadau diymhongar ar Stryd Fawr Bangor i’n swyddfa bresennol ym Mharc Menai, mae ein swyddfa ym Mangor yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n stori a’n cysylltiad â’r gymuned leol.