04/06/2026
🚴🏻♂️ TAITH FEICIO ELUSENNOL LLUNDAIN I GHENT
👀 Dim ond 4 wythnos sydd i fynd cyn i Richard ymgymryd ar ei her feicio gyda Sefydliad Elusennol St. James’s Place!
🚴🏻♂️ Bydd Richard, ynghyd â chydweithwyr eraill, yn cychwyn ar eu taith feicio o Barc Greenwich, Llundain, ddydd Gwener 3ydd o Orffennaf, gan herio eu hunain gyda phob cilometr! Ar hyd y ffordd, byddant yn ymweld â nifer o dirnodau enwog y byd beicio, gan gynnwys Grand Place Ypres, Porth Menin, a’r dringfeydd coblog chwedlonol Taaienberg, Kemmelberg a Koppenberg, cyn gorffen yn nhref hardd Ghent yng Ngwlad Belg. Bydd yr her yn gweld Richard yn cwblhau cyfanswm o 380km a 2,250m o ddringo fertigol dros gyfnod o 3 diwrnod!
💷 Mae Richard yn anelu at godi £1,500 ar gyfer Sefydliad SJP, lle defnyddir yr a***n i gefnogi elusennau sy’n gweithio gyda phlant sydd dan anfantais gorfforol, gymdeithasol neu economaidd, yn ogystal â hosbisau, elusennau iechyd meddwl ac elusennau sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda chanser ledled y DU, gan gynnwys Gorllewin Cymru. Am bob punt y bydd Richard yn ei chodi, bydd RJ Financial Planning yn cyfateb y swm hyd at gyfanswm o £1,500, a fydd yn cael ei rannu rhwng dau elusen leol, sef GOFAL CANSER ABERTEIFI a Sefydliad PAUL SARTORI.
🤞Rydym yn falch iawn o nodi bod Richard wedi cael dechrau gwych i’w ymgyrch codi a***n, ac gyda’ch cefnogaeth chi mae’n gobeithio cyrraedd ei darged er budd tair elusen arbennig iawn.
🙏🏻DIOLCH YN FAWR IAWN i bawb sydd eisoes wedi rhoi cyfraniad drwy ei dudalen JustGiving ac am anfon negeseuon o gefnogaeth ac anogaeth ar gyfer yr her sydd o’i flaen. Os hoffech gefnogi Richard gyda’i ymdrechion codi a***n eleni, cliciwch ar y ddolen JustGiving isod⤵️
Bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth gefnogi’r sefydliad a’r ddwy elusen leol yma yng Ngorllewin Cymru.
https://www.justgiving.com/page/rich-jones-5?fbclid=IwZnRzaASOYbBleHRuA2FlbQIxMQBzcnRjBmFwcF9pZAo2NjI4NTY4Mzc5AAEe-Tgzm9gyCkwnzIqVVIOoNtWf1fPlknI3av6sPn4-NVI7DSATJWZ5KO-eKSk_aem_1yXz9UG8dmB3qONCyinDdg
Help Rich Jones raise money to support St. James's Place Charitable Foundation